Croeso
Mae Veg Oil Motoring yn fenter sy’n ymrwymo i leihau arylliannau carbon deuocsid drwy ddefnyddio olew coginio fel tanwydd mewn cerbydau. Rydym yn cynnig trawsnewidiadau am bris cystadleuol sy’n caniatáu i’r cerbydau ac injans diesel eraill redeg ar olew coginio. Rydym hefyd yn gwerthu olew coginio tolledig sef, yn fwy na thebyg, y tanwydd mwyaf carbon niwtral ar gyfer cerbydau cyffredin sydd wedi eu haddasu. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

Pam defnyddio tanwydd olew coginio?
Mae’n danwydd rhatach na diesel neu betrol, a gallai gynyddu perfformiad pŵer eich car. Ar hyn o bryd, mae’n bosibl cerdded i mewn i brif archfarchnadoedd y DU a phrynu olew coginio am 44c/litr. Unwaith yr ydych wedi talu toll o 27.1c i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, er mwyn ei ddefnyddio fel tanwydd mewn cerbyd sy’n mynd ar yr heol, cyfanswm y gost yw 71.1c/litr, sydd, ar hyn o bryd, yn rhatach na phetrol neu ddiesel. Mae defnyddio olew coginio sydd wedi ei ddefnyddio hefyd yn opsiwn, a gellir prynu olew o ansawdd da sydd wedi’i ailgylchu oddi wrthym am 75c/l.
Mae ymchwil annibynnol wedi dangos bod cynnydd mewn perfformiad pŵer ceir sydd wedi’u trawsnewid i redeg ar olew coginio, yn hytrach na lleihad mewn perfformiad, a hynny o’u cymharu â cheir sy’n rhedeg ar ddiesel ar draws rhan fwyaf o’r cyflymderau.
Ar gyfer yr holl rai hynny sy’n poeni am ollwng carbon deuocsid i’r atmosffer pob tro y maent yn teithio mewn car, gallai defnyddio olew coginio fel tanwydd ddatrys eich dilemma. Y tebyg yw y byddwn ni gyd yn byw tan ein bod yn hen iawn, a bydd y blaned yn llawer poethach os arhoswn i’r diwydiant moduro dynnu ei hun at ei gilydd a chynhyrchu car hydrogen neu drydan sy’n gweithio go iawn ac sy’n effeithiol o ran cost. Fodd bynnag, mae rhedeg car diesel ar olew coginio yn realiti y gellir ei gyflawni’n hawdd i’r rhai hynny sydd am gael modur carbon niwtral heddiw.