Olew coginio neu fiodiesel

Olew llysiau yn erbyn biodiesel

Ar gyfer yr amgylcheddwyr brwdfrydig, dylid ffafrio rhedeg car ar olew coginio yn hytrach na biodiesel.  Y rheswm dros hyn yw bod gan olew coginio, fel tanwydd, mwy o niwtraledd carbon.  I wneud biodiesel, rydych yn dechrau gydag olew coginio ac yn ei roi drwy broses gemegol sydd angen ynni ac ymweithredyddion cemegol eraill, rhai a gynhyrchir fel arfer o fasau tanwyddau ffosil.  Felly, os yw olew coginio yn danwydd mor dda, pam fod angen mynd i’r drafferth i’w addasu’n gemegol?

Mae gan fiodeisel fantais dros olew coginio am eich bod yn gallu ei ddefnyddio mewn unrhyw injan diesel nad yw wedi cael ei drawsnewid, cyhyd â bod llinellau’r tanwydd wedi eu gwneud allan o rwber synthetig.  Mae biodiesel yn rhydu rwber naturiol.  Oherwydd y gellir defnyddio biodeisel yn ei hanfod fel diesel confensiynol, ymddengys bod y modurwyr cyffredin yn fwy tebygol o’i ddefnyddio fel tanwydd amgylcheddol.  Mewn gwirionedd, mae rhai o wledydd yr UE yn annog canran gyffredin o fiodiesel yn yr holl ddiesel mwynol. Felly, efallai yn fuan y bydd modurwyr yn defnyddio biodiesel p’un ai y byddant yn ei hoffi neu beidio.  Mae’n glir felly bod gan biodiesel, fel olew coginio, rôl bwysig i’w chwarae i geisio gwneud moduro yn fwy carbon niwtral.