Y peiriant diesel

Mae’r dudalen hon yn cynnig gwybodaeth sylfaenol am injans diesel mewn perthynas â’u trawsnewid i redeg ar olew coginio cyffredin (OCC).  Mae hefyd yn cynnwys manylion am sut i ddod o hyd i bympiau sy’n chwistrellu tanwydd.

Yn awr, mae o leiaf pedwar math o injan diesel sy’n cael eu defnyddio’n helaeth; gwahaniaethir rhyngddynt yn ôl y ffordd y mae’r system chwistrellu tanwydd yn gweithio.  Disgrifir y pedwar math yma:

Chwistrelliad anuniongyrchol (IDI)

Yn yr injans hyn, ni chaiff y tanwydd ei chwistrellu’n uniongyrchol i ben uchaf y silindr, ond caiff ei chwistrellu’n anuniongyrchol drwy’r siambr sy’n tanio y tu mewn neu’r siambr droelli sy’n ymuno â phen uchaf y silindr; a dyna’r reswm dros ei alw’n chwistrelliad uniongyrchol. Mae’r rhan fwyaf o losgi tanwydd yn digwydd ym mlaen y siambr hon. Mae’r pwmp chwistrellu tanwydd a ddefnyddir gyda’r injans hyn yn amseru chwistrelliad tanwydd unigol yn eu tro i ‘r siambr llosgi. Mae’r chwistrelliad hwn, sy’n cael ei amseru, wedi’i gydamseru gan felt neu tsiaen amseru’r cerbyd. Caiff dau fath o bympiau chwistrellu tanwydd eu defnyddio fel arfer gyda’r math hwn o injan: pympiau sy’n troi neu rhai sydd mewn llinell. Gellir gwahaniaethu rhwng y ddau fath drwy edrych ar leoliad arllwysfeydd y pympiau chwistrellu ar y pwmp. Gyda phympiau sy’n troi, mae’r arllwysfeydd wedi eu trefnu mewn cyfluniad sgwâr neu mewn cylch ar ochr y pwmp, tra bo’r arllwysfeydd ar y pwmp sydd mewn llinell yn tueddu i fod mewn llinell ar ben uchaf y pwmp. Yr injans lle ceir cynllun anuniongyrchol yw’r rhai gorau, mewn gwirionedd, ar gyfer eu trawsnewid i redeg ar OCC, cyhyd â bod ganddynt bympiau addas, ac oherwydd hyn, gellir trawsnewid  nifer ohonynt drwy osod un tanc Elsbett.

Chwistrelliad uniongyrchol (DI)

Yn yr injans hyn, caiff y tanwydd ei chwistrellu’n uniongyrchol i’r silindr lle mae’r llosgi’n digwydd. Mae hyn yn cynyddu cyfanswm yr ynni sy’n dod o’r llosgi sy’n cael ei droi yn symudiad, gan wneud i gerbydau sydd â’r injans hyn fod yn fwy effeithlon na’r rhai uchod. Gall injans â chwistrelliad uniongyrchol ddefnyddio pympiau chwistrellu tebyg i’r rhai a ddefnyddir gyda’r systemau IDI, gan roi un chwistrelliad o danwydd wedi ei amseru i bob silindr yn eu tro, sef chwistrelliad sy’n cael ei gydamseru gan y belt amseru. Gall mathau penodol o’r injans hyn, y rhai nad ydynt wedi symud at chwistrelliad unigol rheilen gyffredin neu chwistrelliad uned, eu trawsnewid gyda system un tanc Elsbett.

Chwistrelliad uniongyrchol Rheilen gyffredin (CDI)

Yn y math hwn o injan diesel, mae’r tanwydd hefyd yn cael ei chwistrellu’n uniongyrchol i silindrau’r injan, fodd bynnag, mae’r system o bwmpio i chwistrellu’r tanwydd yn wahanol i’r un uchod. Gyda chwistrelliad uniongyrchol rheilen gyffredin, nid yw’r prif bwmp yn pwmpio bob silindr yn ei dro. Yn lle hynny, mae’n pwmpio tanwydd sydd o dan wasgedd i’r “rheilen gyffredin”, sef piben gyffredin sy’n medru gwrthsefyll gwasgedd uchel y tanwydd sy’n ymestyn i bob chwistrellwr. Mae falfiau sy’n cael eu rheoli gan gyfrifiadur yna’n rheoli pan fo chwistrellu’r tanwydd i’r silindr yn digwydd, yn hytrach nag amseru’r pwmp. Mae hyn yn caniatáu i’r gwasgedd gynyddu pan fo’r tanwydd yn cael ei chwistrellu i’r silindrau, gan losgi’r tanwydd yn well. Mae gwell llosgi yn arwain at ddefnyddio tanwydd mewn modd mwy effeithlon, gan hefyd leihau’r allyriannau nad ydynt wedi llosgi neu sydd wedi eu llosgi’n rhannol. Mae rhai gwneuthurwyr yn cyfeirio at y math hwn o injan fel chwistrelliad uniongyrchol gwasgedd uchel (HDI). Ar hyn o bryd, gall y systemau hyn gael eu trawsnewid â systemau trawsnewid dau danc, gan fod yn rhaid iddynt ddefnyddio diesel i ddechrau. Hefyd, nid yw’r citiau dau danc yn fath confensiynol, gan fod angen gosod pympiau ychwanegol at y systemau hyn.

Chwistrelliad Uned (UI)

Dyma’r cynllun system chwistrellu sy’n cael ei ddefnyddio yn rhan fwyaf o’r cerbydau diesel modern, er bod y syniad wedi bodoli ers tipyn o amser. Mae’r tanwydd, eto, yn cael ei chwistrellu’n uniongyrchol i silindr yr injan. Fodd bynnag, mae’r chwistrellwr sy’n chwistrellu’r tanwydd i’r silindr a’r pwmp yn y system hon yn creu gwasgedd hanfodol i alluogi hyn gan gyfuno’n un uned. Felly, mae gan bob silindr ei bwmp ei hun. Mewn injans Volkswagn-Audi, gelwir hyn yn system Pumpe-Düse, sy’n golygu ‘chwistrellwr pwmp’. Ar hyn o bryd, ni all yr injans hyn gael eu trawsnewid gan system un tanc Elsbett, ac fel yr injans CDI, mae angen system trawsnewid dau danc.

Lleoli pwmp chwistrellu tanwydd

Dyma ganllaw i ddechreuwyr leoli eich pwmp chwistrellu. Ei amcan yw rhoi gwybodaeth i berchnogion cerbydau sydd ag injans IDI neu DI nad ydynt yn syrthio i gategori’r CDI neu UI.

Yn aml, y peth cyntaf sydd angen ei wneud cyn ei bod hi’n bosibl i gael golwg dda ar yr injan yw symud gorchudd yr injan, os oes un wedi cael ei osod. Gall hwn gael ei ddadfolltio’n eithaf hawdd. Unwaith ei bod hi’n bosibl i chi gael golwg dda ar yr injan, dylech fod yn medru gweld rhes o chwistrellwyr gydag amryw o bibau wedi eu cysylltu iddynt yn rhedeg ar hyd rhan uchaf yr injan. Yn aml, mae’r rhain mewn lleoliad tebyg i lle y byddai’r pibau tanio ar injan petrol. Y pibau sy’n mynd mewn i ben y chwistrellwyr yw’r pibau cyflenwi chwistrelliad, a gellir dilyn y rhain yn ôl i ddod o hyd i’r pwmp chwistrellu tanwydd. Os cynllun pwmp chwistrellu cylchol sydd i’r tanwydd, bydd y pibau chwistrellu yn dod allan o ochr y pwmp mewn grŵp sgwar neu gylch. Os pwmp mewn llinell sydd i’r injan, bydd y pibau chwistrellu yn dod allan ar draws pen uchaf y pwmp mewn rhestr. Gellir gweld lleoliad pwmp chwistrellu tanwydd yma ar injan IDI Peugeot / Citroen. Nid yw’r pwmp chwistrellu tanwydd bob amser wedi ei leoli mewn lleoliad sydd mor gyfleus â hyn, ar flaen yr injan, fel y gellir gweld. Mae’r pwmp wedi’i guddio ar ochr draw’r injan diesel ar geir Vauxhall Corsa. Yn yr achos hwn, yn aml mae angen drych wedi ei osod er mwyn cynyddu rhwyddineb i archwilio’r pwmp.

Adnabod pwmp tanwydd

Dyma rai pwyntiau i wahaniaethu rhwng pympiau CAV / Lucas. Yn aml, mae dau fath o bwmp sydd angen gwahaniaethu rhyngddynt ar geir sydd wedi eu gwneud yn Ewrop.

Gellir gwahaniaethu rhwng pwmp Bosch safonol, sy’n troi ar gyfer injan diesel anuniongyrchol pedwar silindr, drwy gael enw a symbol Bosch wedi ei fowldio ar ran alwminiwm y pwmp. Mae “Made in Germany” fel arfer wedi ei gastio arnynt hefyd. Mae cyflenwad y tanwydd yn mynd i mewn i’r pwmp ar ochr arall yr arllwysfeydd chwistrellu. Gellir adnabod yr hyn sy’n cyfateb i bwmp CAV / Lucas yn ôl yr engrafiad glas disglair CAV / Lucas arno. Mae cyflenwad y tanwydd yn mynd mewn drwy ben arall y pympiau hyn i’r pwmp Bosch, ac ar yr un pen â’r arllwysfeydd chwistrellu.